top of page
delwedd.png

Tair hafan grwn berffaith i'ch hudo ym Maes Celt

gaer.webp

Mae'n fwy na lle i aros ... mae'n brofiad 

delwedd.png

Wedi'i leoli wrth droed Caer Maesmynach — y gaer Geltaidd hynafol sy'n coroni ein tir fferm — mae ein tri thŷ crwn moethus yn cynnig cyfuniad unigryw o dreftadaeth a chysur modern.

Gan edrych dros Afon Grannell, mae pob tŷ crwn wedi'i gynllunio'n feddylgar, yn noddfa i ymlacio a dadflino. Ym mis Ionawr 2026 bu i raglen Prynhawn Da ymweld a ni fel llety anarferol i aros yng Nghymru !

 

​​

  • Gwely maint brenin pedwar poster

  • Siglen dan do i ymlacio a dadflino beth bynnag yw'r tywydd

  • Teledu clyfar, WiFi

  • Gardd breifat gaeedig gyda lawnt, pwll tân a thwb poeth tân coed

  • Ni chaniateir anifeiliaid anwes yn y tŷ crwn hwn

  • Mae'n ddrwg gennym, dim ysmygu

yr awen.jpg

Yr Awen

"Gwyliau hollol anhygoel - doedden ni ddim eisiau gadael!"     Emma & David

delwedd.png

Mwynhewch siglen dan do i fyfrio, boed glaw neu hinda... ac ymlacio y tu allan gyda'r nos wrth ymyl tân cynnes ynghyd â thwba poeth tân coed - bob mis o'r flwyddyn .

Profwch groeso ein tŷ crwn moethus, lle mae'r to uchel a'r gwely deri pedwar poster o Gymru  yn cyfrannu at elfennau unigryw yr hafan hon.

Mae Yr Awen, Ty Crwn ac Y Cwlwm yn croesawu cwn.  

top view FB.jpeg

Tŷ  Crwn

"Rydym ni wedi bod ar lawer o wyliau "twba poeth" dros y blynyddoedd ond mae ein gwyliau yn Nhŷ Crwn wedi creu mwy o argraff arnom na'r un lle arall !" Ellen

Mae trawstiau pren , muriau crwn a lloriau lliw cynnes dan draed yn eich croesawu i'r hafan ramantus hon.

Ymlaciwch gyda gwydraid o win yn y bath copr mawr wrth waelod y gwely . Ble arall fyddai'n well gennych fod?

Mwynhau llecyn prefiat, twba poeth, golygfeydd ysblennydd a swn yr afon a 'theimlad' o berthyn fel dim arall!

16.jpeg
14.jpeg
3.JPG
delwedd.png

Y Cwlwm

cwlwm 1_golygwyd.jpg

"Lle prydferth dros ben i aros ."

                                         Rebecca

" Cafodd ein cŵn amser gwych hefyd ac yn amlwg roedden nhw'n teimlo'n llawn mor gartrefol a ni . Rydym yn gadael wedi ein hadfywio ac yn ddiolchgar iawn am y lle arbennig hwn." Louisa

Cyfeillgar i gŵn (uchafswm o 2 gi) gyda gardd gaeedig

View from top of fort.jpg
IMG-20251228-WA0001.jpg

Lle i arafu, meddwl a bwydo'r enaid 

Ymlacio a mwynhau y bath mawr 2m dan do, tostio malws melys a gwylio'r sêr o'r gwely mawr .

3.jpeg
delwedd.png

Sylwadau 

“We’ve been on many “hot tub” holidays over the years, but our stay at Ty Crwn in Wales has completely blown every other one out of the water.”

Ellen

"We have stayed in lots of different accommodation around the UK and this was by far a stand out accommodation, the best we have ever stayed in. Everything was so well thought out, the owners have thought of everything you could possibly need."

Melissa

"Mae'r lleoliad yn rhyfeddol o anghysbell a heddychlon — wedi'i amgylchynu gan natur ac yn berffaith ar gyfer arafu a dadflino. Mae'r tŷ ei hun yn berffaith, yn gyfforddus, popeth y gallem ei fod ei angen ar gyfer ein gwyliau , yn llawn swyn, gyda dyluniad crwn unigryw sy'n ei wneud i dteimlo'n arbennig iawn."

Jean

bottom of page